Head of school of dentistry - cardiff

New Today

Head of School of Dentistry - Cardiff Cardiff University invites applications for the role of Head of the School of Dentistry, a School with a strong national and international profile and a commitment to advancing dental education, research and clinical practice. Reporting to the Pro Vice-Chancellor and Head of the College of Biomedical and Life Sciences, the Head of School will provide strategic leadership that enhances academic excellence, strengthens the student and staff experience, and promotes an inclusive and ambitious culture. Applicants will have an outstanding academic and clinical record in a relevant discipline, supported by significant leadership experience and a strong record of strategic delivery. You will bring the authority and credibility to represent the School effectively and the ability to lead colleagues through change while advancing the priorities of the College and the wider University. Cardiff University is a member of the Russell Group and one of the UK’s largest universities. Our vision is to be a world-leading, research-intensive and educationally outstanding institution with meaningful social, cultural and economic impact. As Wales’s largest university, we work closely with society, the NHS, industry and government to address major contemporary challenges. Role and Terms A competitive salary will be offered, commensurate with experience, alongside 37 days of annual leave, USS pension membership and relocation support of up to £8,000. The Head of School appointment is full time for up to five years, with the possibility of a further three-year term, and includes a non‑pensionable allowance of £12,000 per annum. The successful candidate will revert to a substantive academic post at the end of their term. How to apply For further details, please click APPLY. The closing date for applications is 23:59 on 16th April 2026. Pennaeth Ysgol Deintyddiaeth Mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer rôl Pennaeth yr Ysgol Deintyddiaeth, ysgol â phroffil cryf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac ymrwymiad i feithrin addysg, ymchwil ac ymarfer clinigol deintyddol. Gan adrodd i’r Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, bydd y Pennaeth Ysgol yn darparu arweinyddiaeth strategol sy’n hybu rhagoriaeth academaidd, yn cryfhau profiad myfyrwyr a staff, ac yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol ac uchelgeisiol. Bydd gan ymgeiswyr gofnod academaidd a chlinigol rhagorol mewn disgyblaeth berthnasol, ynghyd â phrofiad arwain sylweddol a chofnod cryf o gyflawni strategol. Byddwch yn dod â’r awdurdod a’r hygrededd i gynrychioli’r Ysgol yn effeithiol, ynghyd â’r gallu i arwain cydweithwyr drwy newid wrth hyrwyddo blaenoriaethau’r Coleg a’r Brifysgol ehangach. Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o’r Grŵp Russell ac yn un o brifysgolion mwyaf y DU. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad o fri byd-eang sy’n rhagori mewn ymchwil ac addysg, ac sy’n cael effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd ystyrlon. Fel prifysgol fwyaf Cymru, rydym yn gweithio’n agos â chymdeithas, y GIG, diwydiant a’r llywodraeth i fynd i’r afael â heriau cyfoes mawr. Y Rôl a’r Amodau Cynigir cyflog cystadleuol, yn unol â phrofiad, ynghyd â 37 diwrnod o wyliau blynyddol, aelodaeth bensiwn USS a chymorth adleoli hyd at £8,000. Mae penodiad y Pennaeth Ysgol yn un llawn amser am hyd at bum mlynedd, gyda’r posibilrwydd o dymor pellach o dair blynedd, ac mae’n cynnwys lwfans nad yw’n bensiynadwy o £12,000 y flwyddyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dychwelyd i swydd academaidd sylfaenol ar ddiwedd y tymor. Sut i ymgeisio Am fanylion pellach, cliciwch APPLY. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 on 16 Ebrill 2026.
Location:
Salary:
£12,000 Per annum
Job Type:
FullTime
Category:
Consulting

We found some similar jobs based on your search