Relationship Manager - Theatre, Performing Arts & Touring
New Today
Rheolwr Perthynas - Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio
Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cytundeb parhaol
Gradd D: Cyflog cychwynnol o £44,718
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Fel Rheolwr Perthynas - Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio, byddwch yn gysylltydd allweddol ym myd theatr amrywiol Cymru. Gan weithio gyda'r tîm arbenigol, byddwch yn meithrin perthnasoedd cryf ar draws ffurfiau perfformio traddodiadol a chyfoes, gan gefnogi lleisiau theatr Cymru a chyflawni nodau strategol, gan gynnwys Adolygiad Theatr Saesneg 2025. Byddwch yn ymgorffori'r Iaith Gymraeg, Amrywiaeth, Cynhwysiant, a Chyfiawnder Hinsawdd yn eich holl waith.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am eiriolwr angerddol dros theatr a chelfyddydau perfformio Cymru, sy'n fedrus wrth gysylltu ag artistiaid, sefydliadau a chymunedau ar draws amrywiol ffurfiau. Yn gydweithredol ac yn weladwy, rydych chi'n dod ag ymrwymiad i amrywiaeth, cynaliadwyedd a blaenoriaethau diwylliannol Cymru, ga...
- Location:
- Cardiff (Caerdydd)
- Salary:
- Grade D: Starting salary of £44,718
- Category:
- Sales